Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 200510.
Yn rheoliad 10 (cwnsela)—
(a)
yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1)
Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—
(a)
sy’n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn;
(b)
sy’n wrthrych cais o’r fath ac sy’n ystyried a ddylai gydsynio i wybodaeth gael ei datgelu amdano’i hun i’r ceisydd; neu
(c)
sy’n berson mabwysiedig sy’n ystyried a ddylai gydsynio i gais fynd yn ei flaen.”;
(b)
yn lle paragraff (4)(c) rhodder—
“(c)
os yw’r person yng Ngogledd Iwerddon, sefydliad gwirfoddol priodol o fewn ystyr “appropriate voluntary organisation” yn Erthygl 2(2) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 19875 neu’r Bwrdd Rhanbarthol neu unrhyw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; neu”; ac
(c)
yn lle paragraff (5) rhodder—
“(5)
Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Rhanbarthol” (“Regional Board”) yw’r Bwrdd Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 20096 ac ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 19917.”