2015 Rhif 1802 (Cy. 257)
Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(6), 9(1), 98(1), (1A), (2) a (3) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200212, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol gan adran 98(6) o’r Ddeddf honno3.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Tachwedd 2015.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005
2
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 20054 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 16.
3
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
ystyr “darpariaeth Seisnig gyfatebol” (“corresponding Englishprovision”) o ran Rhan neu reoliad yn y Rheoliadau hyn, yw darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 o Ddeddf 2002 sy’n cyfateb i’r Rhan honno neu’r rheoliad hwnnw;
ystyr “person mabwysiedig” (“adopted person”) yw person a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 ac sydd wedi cyrraedd 18 oed;
mae i “perthynas ragnodedig” (“prescribed relationship”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;
b
yn lle’r diffiniad o “y ceisydd” (“the applicant”) rhodder—
ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 5 ac sydd—
- a
yn berson mabwysiedig;
- b
yn berson sydd â pherthynas ragnodedig; neu
- c
yn berthynas i berson mabwysiedig;
4
Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—
Perthynas ragnodedig2A
At ddibenion adran 98(1A) o Ddeddf 2002, mae perthynas ragnodedig yn berthynas lle mae person (nad yw’n berthynas i’r person mabwysiedig o fewn ystyr “perthynas” yn rheoliad 2) yn perthyn i berson mabwysiedig—
a
drwy waed, priodas neu bartneriaeth sifil; neu
b
yn rhinwedd mabwysiad y person mabwysiedig.
5
Yn rheoliad 4 (ystyr “gwasanaeth cyfryngol” ac “asiantaeth gyfryngol”) yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—
a
cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad;
b
hwyluso cyswllt rhwng personau mabwysiedig a’u perthnasau; ac
c
hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig.
6
Yn rheoliad 5—
a
yn y pennawd yn lle “Blaenoriaeth i fabwysiadau cyn 1976” rhodder “Ceisiadau y caniateir eu derbyn”;
b
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais—
a
oddi wrth berson mabwysiedig am gynhorthwy i gael gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw ac i gysylltu â pherthynas i’r person hwnnw;
b
oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu—
i
â’r person mabwysiedig; neu
ii
â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu
c
oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i berson mabwysiedig.
c
hepgorer paragraff (2);
d
ym mharagraff (3) ar ôl “paragraff (1)” hepgorer “a (2)”.
7
Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—
Cyfyngiadau ar fwrw ymlaen â chais5A
1
Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii).
2
Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais—
a
os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii); neu
b
os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
3
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
4
Caiff asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais o dan baragraff (3)—
a
os yw’r asiantaeth gyfryngol wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i’r person mabwysiedig ond ei bod wedi methu gwneud hynny; neu
b
pan fo—
i
y ceisydd naill ai yn briod, plentyn, ŵyr, wyres, gorwyr neu orwyres i’r person mabwysiedig; a
ii
y ceisydd yn ceisio cysylltu â’r perthynas i’r person mabwysiedig dim ond i gael gwybodaeth am hanes meddygol perthnasau’r person mabwysiedig.
5
Pan fo paragraff (4)(b) yn gymwys, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai, o’i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y person y’i datgelir iddo, yn galluogi’r person mabwysiedig, unrhyw berthynas i’r person mabwysiedig neu unrhyw berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig i gael ei adnabod neu ei olrhain.
6
Nid yw unrhyw ofyniad o dan y rheoliad hwn i’r person mabwysiedig gydsynio i gais fynd yn ei flaen yn gymwys—
a
os yw’r person mabwysiedig wedi marw; neu
b
os yw’r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu na all y person mabwysiedig roi cydsyniad deallus.
7
Pan fo’n ofynnol cael cydsyniad y person mabwysiedig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y person mabwysiedig ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus.
8
Yn rheoliad 8 (feto gan berson mabwysiedig)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol—
a
os naill ai’r person mabwysiedig neu berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig yw’r gwrthrych; a
b
os yw’r person mabwysiedig wedi hysbysu’r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—
i
nad yw’n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu
ii
nad yw’n dymuno i gyswllt gael ei wneud ag ef ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.
b
hepgorer paragraff (3); ac
c
ar y diwedd mewnosoder—
4
Bernir bod feto sy’n gymwys yn rhinwedd hysbysiad a roddwyd cyn 10 Tachwedd 2015 yn gymwys i unrhyw gais a wnaed gan berthynas i’r person mabwysiedig o dan y Rheoliadau hyn.
9
Yn lle rheoliad 9 (darparu gwybodaeth gefndir pan fo cydsyniad yn cael ei wrthod etc.) rhodder—
9
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal yr asiantaeth gyfryngol rhag datgelu i’r ceisydd unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw’n wybodaeth adnabod ac y mae’r asiantaeth o’r farn ei bod yn briodol ei datgelu.
10
Yn rheoliad 10 (cwnsela)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—
a
sy’n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn;
b
sy’n wrthrych cais o’r fath ac sy’n ystyried a ddylai gydsynio i wybodaeth gael ei datgelu amdano’i hun i’r ceisydd; neu
c
sy’n berson mabwysiedig sy’n ystyried a ddylai gydsynio i gais fynd yn ei flaen.
b
yn lle paragraff (4)(c) rhodder—
c
os yw’r person yng Ngogledd Iwerddon, sefydliad gwirfoddol priodol o fewn ystyr “appropriate voluntary organisation” yn Erthygl 2(2) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 19875 neu’r Bwrdd Rhanbarthol neu unrhyw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol; neu
c
yn lle paragraff (5) rhodder—
5
Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Rhanbarthol” (“Regional Board”) yw’r Bwrdd Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 20096 ac ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 19917.
11
Yn rheoliad 11 (y weithdrefn pan geir cais)—
a
hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (b);
b
ar ddiwedd paragraff (c) yn lle “.” rhodder “; ac”;
c
ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
ch
yn achos cais gan berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, bod gan y ceisydd berthynas ragnodedig â’r person hwnnw.
12
Yn rheoliad 12 (cysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu briodol)—
a
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Mae’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—
a
gofyn yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth o dan reoliad 13 a all fod yn berthnasol at y diben hwn;
b
gofyn yn ysgrifenedig i’r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu am wybodaeth am hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
c
holi’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y digwyddodd y mabwysiad.
b
ym mharagraff (3) ar ôl “rhaid i’r asiantaeth gyfryngol” mewnosoder “gymryd pob cam rhesymol i”;
c
yn lle paragraff (4)(a) rhodder—
a
cael gwybod a yw’r person mabwysiedig, ar unrhyw adeg, wedi mynegi barn i’r asiantaeth ynghylch—
i
unrhyw gyswllt yn y dyfodol ag unrhyw berthynas;
ii
unrhyw gyswllt yn y dyfodol rhwng pobl sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig;
iii
codi pwnc cyswllt o’r fath gydag ef; a
d
yn lle paragraff (4)(c) rhodder—
c
ceisio unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol at ddibenion—
i
olrhain y person mabwysiedig ac, os nad y person mabwysiedig yw’r gwrthrych, unrhyw wrthrych arall;
ii
galluogi’r person mabwysiedig i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—
aa
i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu;
bb
i gais fynd yn ei flaen i hwyluso cyswllt rhwng perthynas i’r person mabwysiedig a pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu
cc
i gyswllt â’r ceisydd;
iii
galluogi unrhyw wrthrych arall i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—
aa
i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu; neu
bb
i gyswllt â’r ceisydd;
iv
cwnsela’r gwrthrych ac, os nad ef yw’r gwrthrych, y person mabwysiedig mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw; a
v
cwnsela’r ceisydd.
e
ym mharagraff (5) ar ôl “chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (4)” mewnosoder “neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol”;
f
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
6
Mae “asiantaeth gyfryngol” at ddibenion paragraff (5) yn cynnwys asiantaeth gyfryngol fel y diffinnir “intermediary agency” o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol.
13
Yn rheoliad 13 (cael gwybodaeth oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol)—
a
yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Caiff asiantaeth gyfryngol wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ba wybodaeth bynnag o blith y canlynol a all ei chynorthwyo at ddibenion bwrw ymlaen â chais o dan y Rheoliadau hyn—
a
hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
b
manylion y llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu;
c
gwybodaeth a all fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi cais i gael ei wneud am dystysgrif o’r Gofrestr Plant Mabwysiedig;
d
gwybodaeth o’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Os oes asiantaeth gyfryngol yn bwrw ymlaen â chais o dan reoliad 5(1)(c), caiff hefyd wneud cais yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth y gallai fod gan y Cofrestrydd Cyffredinol a fyddai’n galluogi’r person mabwysiedig y mae gan y ceisydd berthynas ragnodedig ag ef i gael copi ardystiedig o’r cofnod o’i enedigaeth.
14
Yn rheoliad 14 (y Cofrestrydd Cyffredinol i gydymffurfio â’r cais)—
a
ym mharagraff (1) hepgorer “12 neu”;
b
hepgorer paragraff (2).
15
Yn rheoliad 16 (datgeliadau awdurdodedig)—
a
ym mharagraff (a) hepgorer “12 neu”;
b
hepgorer “ac” ar ddiwedd paragraff (c);
c
ym mharagraff (ch) yn lle “.” rhodder “; a”;
d
ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—
d
i’r person mabwysiedig i’w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio i gais o dan y Rheoliadau hyn fynd yn ei flaen.
16
Yn rheoliad 18 (ffioedd) yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi’r ffioedd a ganlyn ar asiantaeth gyfryngol mewn cysylltiad â cheisiadau am wybodaeth o dan reoliad 13 neu 14—
a
£36 am brosesu cais cychwynnol am wybodaeth (p’un a ddarperir gwybodaeth ai peidio);
b
£14 am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i unrhyw gais dilynol a wneir mewn perthynas â’r un ceisydd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)