(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) sy’n rhagnodi ffurf hysbysiadau penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”) sy’n ymwneud â’r hawl i brynu, a’r manylion sydd i’w cynnwys yn yr hysbysiadau hynny. Mae’r diwygiad yn ymwneud â’r ffurflen ragnodedig sydd i’w defnyddio gan denant diogel sy’n hawlio arfer yr hawl i brynu yn unol ag adran 122 o’r Ddeddf.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2015 i roi cyfeiriad at yr uchafswm yn lle swm gwirioneddol uchafswm y gostyngiad yng Nghymru yn y ffurflen ragnodedig sydd i’w defnyddio gan denant diogel sy’n hawlio arfer yr hawl i brynu yn unol ag adran 122 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.