NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a chyrff eraill drechu hawddfreintiau a hawliau eraill a fyddai fel arall yn cyfyngu ar eu defnydd o dir a gaffaelwyd neu a berchenogwyd at ddibenion cynllunio. Ni allant wneud hyn onid yw’r defnydd yn unol â chaniatâd cynllunio. Mae’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy’n cyfateb i adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 (“Deddf 2008”) ac Atodlen 9 iddi.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn datgymhwyso’r gofyniad i Weinidogion Cymru a’r Gweinidog priodol benderfynu ar y cyd ynghylch ceisiadau ac apelau cynllunio penodol pan fo’r cais wedi ei wneud gan ymgymerwr statudol. Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog priodol gyfarwyddo bod y gofyniad am benderfyniadau ar y cyd yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais perthnasol neu’r apêl berthnasol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy’n cyfateb i adran 195 o Ddeddf 2008.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae’n darparu bod adran 266(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gymwys pan wneir cais neu apêl ar ôl i’r Gorchymyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.