xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1793 (Cy. 253)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

12 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Hydref 2015

Yn dod i rym

6 Tachwedd 2015

Drwy arfer eu pwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1996 p. 56. Rhoddwyd y pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol: gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 579 o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), mae’r pwerau yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru ac yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.