xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ac mae’n dwyn i rym adran 41 o Ddeddf Dŵr 2014 (“Deddf 2014”).
Mae adran 41 (anghydfodau ynghylch darparu carthffosydd cyhoeddus: mangreoedd yng Nghymru) o Ddeddf 2014 yn gwneud diwygiadau i adran 101A (dyletswydd bellach i ddarparu carthffosydd) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu ar anghydfodau ynghylch darparu carthffos gyhoeddus yng Nghymru.
Cyn i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) oedd yn gyfrifol yng Nghymru am benderfynu ar anghydfodau. Mae adran 41 o’r Ddeddf yn rhoi’r rôl hon i Weinidogion Cymru, neu i berson a benodir ganddynt, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i CANC gynghori’r partïon a’r person sy’n penderfynu ar yr anghydfod, os gofynnir iddo wneud hynny.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu bod CANC yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfynu ar anghydfodau a gyfeirir ar gyfer penderfynu arnynt o dan adran 101A o’r Ddeddf 1991 cyn i adran 41 o Ddeddf 2014 ddod i rym.