Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015
2015 Rhif 1775 (Cy. 247)
Meinweoedd Dynol, Cymru
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 7(2) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 20131 ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.