Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1736 (Cy. 237) (C. 106)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015

Gwnaed

29 Medi 2015

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Hydref 2015

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym, yw 5 Hydref 2015—

(a)adran 4 (dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol); a

(b)Rhan 1 o Atodlen 1 (cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

29 Medi 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 4 o’r Ddeddf i rym ar 5 Hydref 2015 i’r graddau nad yw’r adran honno eisoes mewn grym. O dan adran 58(2)(b) o’r Ddeddf, daeth Rhan 3 o’r Ddeddf i rym ar 6 Medi 2015 (2 fis ar ôl y dyddiad pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015) i’r graddau y mae’n angenrheidiol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf.

Mae adran 4 yn ymwneud â’r broses ar gyfer dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol. Mae adran 4(1) o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 60D i 60G yn Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”).

Mae adran 60D o Ddeddf 2004 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddynodi ardal gynllunio strategol ac i sefydlu panel cynllunio strategol ar gyfer yr ardal honno.

Mae adran 60E o Ddeddf 2004 yn nodi’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd drwyddi i un neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynnig i Weinidogion Cymru ar gyfer dynodi ardal yn ardal gynllunio strategol.

Mae adran 60F o Ddeddf 2004 yn gosod dyletswydd i ymgynghori ar Weinidogion Cymru.

Mae adran 60G o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru os cânt gais i wneud hynny.

Mae adran 4(2) o’r Ddeddf yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn mewnosod Atodlen 2A yn Neddf 2004 ac yn darparu ar gyfer trefniadau cyfansoddiadol, ariannol a gweinyddol y paneli.

Mae paragraff 28 o Atodlen 1 yn caniatáu i’r Atodlen gael ei diwygio drwy reoliadau.

Gweler adran 58 (dod i rym) o’r Ddeddf am ddarpariaethau sy’n dod i rym ar ôl pasio’r Ddeddf.