Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015.

(2Daw erthyglau 1 i 3 o’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Hydref 2015.

(3Daw erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl i erthyglau 1 i 3 ddod i rym.

(4Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(1);

(b)ystyr “Gorchymyn 2013” (“the 2013 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2013(2); ac

(c)ystyr “Gorchymyn 2014” (“the 2014 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2014(3).