xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1723 (Cy. 235)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

24 Medi 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Medi 2015

Yn dod i rym

20 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3). Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 2(a)(ii) a (vii) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

(1)

1967 p. 8. Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)). Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3(1) yn cael eu rhoi i awdurdod cymwys (“competent authority”), a ddiffinnir yn adran 1(2) fel Gweinidogion Cymru (ar gyfer Cymru). Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan baragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68).

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(3)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).