2015 Rhif 1723 (Cy. 235)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723. Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 2(a)(ii) a (vii) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.