xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym o ran Cymru, ar 1 Hydref 2015, adrannau 35 a 36 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (“y Ddeddf”). Mae’r adrannau hynny yn Rhan 2 (diwygio rheoleiddio) o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954.

Drwy eu cychwyn, mae’r darpariaethau yn eithrio busnesau cartref rhag y diogelwch deiliadaeth a roddir i denantiaid mangreoedd sydd wedi eu meddiannu at ddibenion busnes. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i denantiaid gael caniatâd i ddefnyddio mangreoedd at ddibenion busnes mewn cytundeb tenantiaeth, ac i landlordiaid adfer meddiant o’r mangreoedd pan ddaw tenantiaeth o’r fath i ben.