xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 5 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:
adran 2 (trais yn erbyn menywod a merched)
adran 3 (dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol)
adran 4 (dyletswydd i weithredu’r strategaeth genedlaethol)
adran 9 (gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon)
adran 11 (dangosyddion cenedlaethol)
adran 12 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru)
adran 22 (cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol)
adran 23 (cyhoeddi adroddiadau)
Daeth adrannau 1 (diben y Ddeddf hon), 24 (dehongli), 25 (cychwyn) a 26 (enw byr) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yn rhinwedd adran 25(1) o’r Ddeddf.
Daeth adrannau 10 (canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch), 14 (ystyr “awdurdod perthnasol”), 15 (pŵer i ddyroddi canllawiau statudol), 16 (ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru), 17 (dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol), 18 (datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol), 19 (cyfarwyddydau), 20 (Cynghorydd Cenedlaethol) ac 21 (swyddogaethau’r Cynghorydd) i rym ar 29 Mehefin 2015 yn rhinwedd adran 25(2) o’r Ddeddf.