Ffurflen hysbysiad cosb benodedig2.

(1)

Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 20142.

(2)

Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).

(3)

Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—

(a)

gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;

(b)

gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;

(c)

arfbeisiau neu logos.