Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015

Ffurflen hysbysiad cosb benodedig

2.—(1Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(1).

(2Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).

(3Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—

(a)gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;

(b)gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;

(c)arfbeisiau neu logos.