xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
10 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 97(2) a 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
2. Daw adran 89 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015.
3.—(1) Ni all gweithredwr dynodedig ond adolygu cwyn gymhwysol am weithred neu anwaith sefydliad cymhwysol sy’n dod o fewn adran 11(e) neu (f) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(2) pan fo’r weithred neu’r anwaith y cwynir amdani neu amdano—
(a)yn digwydd ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny; neu
(b)yn digwydd cyn y dyddiad hwnnw ond yn parhau ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.
(2) Yn yr erthygl hon, mae i’r termau “gweithredwr dynodedig”, “cwyn gymhwysol” a “sefydliad cymhwysol” yr un ystyr ag a roddir i “designated operator”, “qualifying complaint” a “qualifying institution” yn eu tro yn Rhan 2 o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru, adran 89 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) sy’n diwygio adrannau 11 a 12 o Ddeddf Addysg Uwch 2004(3) drwy ehangu’r rhestr o ddarparwyr addysg uwch y mae’n ofynnol iddynt ymuno â’r cynllun ymdrin â chwynion addysg uwch.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r sefydliadau newydd hynny sy’n cael eu dwyn o dan y cynllun cwynion addysg uwch, sef mai dim ond am weithredoedd neu anweithiau sy’n digwydd ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny, neu pan fo gweithred neu anwaith yn digwydd cyn 1 Medi 2015 ac yn parhau ar ôl y dyddiad hwnnw, y mae modd cwyno mewn perthynas â’r sefydliadau newydd hynny.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 77 (yn rhannol) | 27 Mai 2015 | O.S. 2015/1333 |
Adran 81 (yn rhannol) | 3 Awst 2015 | O.S. 2015/1584 |
Adran 82 | 27 Mai 2015 | O.S. 2015/1333 |
Atodlen 5 (yn rhannol) | 27 Mai 2015 | O.S. 2015/1333 |
Paragraffau 12, 18, 20 i 22, a 28 i 35 o Atodlen 8 (yn rhannol) | 3 Awst 2015 | O.S. 2015/1584 |