xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

YR ATODLENNI

ATODLEN 1LL+CSYLWEDDAU PERYGLUS A’R MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH

RHAN 4LL+CNodiadau i Rannau 1 i 3

1.  Caiff sylweddau a chymysgeddau eu dosbarthu yn unol â’r Rheoliad DLPh(1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

2.  Rhaid trin cymysgeddau yn yr un ffordd â sylweddau pur ar yr amod eu bod yn parhau o fewn terfynau crynodiad a bennwyd yn unol â’u nodweddion o dan y Rheoliad DLPh, neu ei addasiad diweddaraf i gynnydd technegol, oni bai y rhoddir yn benodol gyfansoddiad canrannol neu ddisgrifiad arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

3.  Mae’r maintioli sydd dan reolaeth a bennir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen hon yn berthnasol i bob sefydliad.LL+C

Y maintioli sydd i’w ystyried ar gyfer cymhwyso’r Rheoliadau hyn yw’r maintioli mwyaf sy’n bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol ar unrhyw un adeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

4.  Mae’r rheol a ganlyn sy’n rheoli ychwanegu sylweddau peryglus, neu gategorïau o sylweddau peryglus, yn gymwys pan fo’n briodol.LL+C

Yn achos sefydliad pan na fo unrhyw sylwedd peryglus unigol yn bresennol o faintioli uwchlaw neu gyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol, rhaid cymhwyso’r rheol a ganlyn er mwyn penderfynu a yw gofynion perthnasol y Rheoliadau hyn yn cwmpasu’r sefydliad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau os yw swm yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1,

  • pan fo

  • qX = maintioli’r sylwedd peryglus X (neu gategori o sylweddau peryglus) sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 o’r Atodlen hon; a

  • QLX = y maintioli sydd dan reolaeth perthnasol ar gyfer sylwedd peryglus neu gategori X o Golofn 2 o Ran 1 neu o Golofn 2 o Ran 2 o’r Atodlen hon, ac eithrio fel a nodir yn y paragraff a ganlyn.

  • At ddibenion cyfrifo QLX yn unig, pan fo’r sylwedd peryglus yn un a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl a ganlyn, mae’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol fel sydd wedi ei nodi yng ngholofn 2 o’r tabl A a ganlyn:

    Tabl A

    Colofn 1Rhif CASColofn 2
    15. Hydrogen1333-74-05
    18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys mwy naturiol hylifedig)-50

Rhaid defnyddio’r rheol hon i asesu’r peryglon i iechyd, y peryglon corfforol a’r peryglon amgylcheddol. Rhaid ei chymhwyso dair gwaith felly—

(a)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori gwenwyndra acíwt 1, 2 neu 3 (llwybr anadlu) neu GPOD AU categori 1, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran H, cofnodion H1 i H3 o Ran 1;

(b)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n ffrwydron, nwyon fflamadwy, erosolau fflamadwy, nwyon sy’n ocsidio, hylifau fflamadwy, sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, perocsidau organig, hylifau a solidau pyrofforig, hylifau a solidau sy’n ocsidio, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran P, cofnodion P1 i P8 o Ran 1;

(c)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori acíwt 1 peryglus i’r amgylchedd dyfrol, categori cronig 1 neu gategori cronig 2, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran E, cofnodion E1 ac E2 o Ran 1.

Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r symiau a geir drwy (a), (b) neu (c) yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

5.  Yn achos sylweddau peryglus nad yw’r Rheoliad DLPh yn eu cwmpasu, gan gynnwys gwastraff, ond sydd er hynny yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn sefydliad ac sy’n meddu ar neu’n debygol o feddu ar nodweddion cyfwerth o ran y potensial am ddamwain fawr, o dan yr amodau a geir yn y sefydliad, rhaid eu neilltuo dros dro i’r categori mwyaf cydweddol neu’r sylwedd peryglus a enwyd mwyaf cydweddol sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

6.  Yn achos sylweddau peryglus sydd â nodweddion sy’n arwain at fwy nag un dosbarthiad, at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli isaf sydd dan reolaeth yn gymwys. Fodd bynnag, ar gyfer cymhwyso’r rheol yn Nodyn 4, rhaid defnyddio’r maintioli isaf sydd dan reolaeth ar gyfer pob grŵp o gategorïau yn Nodiadau 4(a), 4(b) a 4(c) sy’n cyfateb i’r dosbarthiad dan sylw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

7.  Mae sylweddau peryglus sy’n dod o fewn Categori 3 Gwenwynig Acíwt drwy lwybr y geg (H 301) yn dod o dan gofnod H2 GWENWYNIG ACÍWT yn yr achosion hynny pan na ellir cael dosbarthiad gwenwyndra anadlu acíwt na dosbarthiad gwenwyndra croenol acíwt, er enghraifft oherwydd diffyg data pendant ynghylch gwenwyndra’r llwybr anadlu a chroenol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

8.  Mae’r dosbarth perygl Ffrwydron yn cynnwys eitemau ffrwydrol (gweler Adran 2.1 o Atodiad I i’r Rheoliad DLPh). Os yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, rhaid ystyried y maintioli hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn. Os nad yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, yna, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin yr eitem gyfan fel un ffrwydrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

9.  Nid oes angen profi ar gyfer nodweddion ffrwydrol sylweddau a chymysgeddau onid yw’r weithdrefn sgrinio yn unol ag Atodiad 6, Rhan 3 o Argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar Gludo Nwyddau Peryglus, y Llawlyfr Profion a Meini Prawf (Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig)(2) yn nodi bod potensial bod y sylwedd neu’r cymysgedd yn meddu ar nodweddion ffrwydrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

10.  Os caiff Ffrwydron sy’n perthyn i Is-adran 1.4 eu dadbacio neu eu hailbacio, rhaid eu neilltuo i’r cofnod P1a, oni bai y dangosir bod y perygl yn dal i gyfateb i Is-adran 1.4, yn unol â’r Rheoliad DLPh.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

11.—(1Caiff erosolau fflamadwy eu dosbarthu yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 75/324/EEC dyddiedig 20 Mai 1975 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau yn ymwneud â chyflenwyr erosol(3) (Y Gyfarwyddeb Cyflenwyr Erosol). Mae erosolau “Fflamadwy dros ben” a “Fflamadwy” o Gyfarwyddeb 75/324/EEC yn cyfateb i Erosolau Fflamadwy Categori 1 neu 2, yn y drefn honno, o’r Rheoliad DLPh.LL+C

(2Er mwyn defnyddio’r cofnod hwn, rhaid iddi gael ei dogfennu nad yw’r cyflenwr erosol yn cynnwys Nwy Fflamadwy Categori 1 na 2 na Hylif Fflamadwy Categori 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

12.  Yn ôl paragraff 2.6.4.5 yn Atodiad I i’r Rheoliad DLPh, nid oes angen dosbarthu hylifau sydd â fflachbwynt uwchlaw 35°C yng Nghategori 3 os cafwyd canlyniadau negyddol yn y prawf hylosgedd parhaus L.2, Rhan III, adran 32 o Lawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig. Nid yw hyn yn ddilys, fodd bynnag, o dan amodau uwch fel tymheredd neu wasgedd uchel, ac felly mae hylifau o’r fath wedi eu cynnwys yn y cofnod hwn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

13.  Amoniwm nitrad (5,000/10,000): gwrteithiau sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliolLL+C

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad (mae gwrteithiau cyfansawdd/cyfun yn cynnwys amoniwm nitrad ynghyd â ffosffad a/neu botash) sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol yn ôl Prawf Cafn y Cenhedloedd Unedig (gweler Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig, Rhan III, is-adran 38.2), ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)rhwng 15.75%(4) a 24.5%(5) yn ôl pwysau, a naill ai â dim mwy na chyfanswm o 0.4% o ddeunyddiau hylosg/organig neu sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Hydref 2003 yn ymwneud â gwrteithiau(6);

(b)yn 15.75% neu lai yn ôl pwysau ac yn cynnwys deunyddiau hylosg digyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

14.  Amoniwm nitrad (1,250/5,000): gradd gwrtaithLL+C

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad ac i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)yn fwy na 24.5% yn ôl pwysau, ac eithrio ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf;

(b)yn fwy na 15.75% yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad;

(c)yn fwy na 28%(7) yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

15.  Amoniwm nitrad (350/2,500): gradd dechnegolLL+C

Mae hyn yn gymwys i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad pan fo’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)rhwng 24.5% a 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.4% o sylweddau hylosg;

(b)yn fwy na 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.2% o sylweddau hylosg.

Mae hefyd yn gymwys i hydoddiannau amoniwm nitrad dyfrllyd y mae eu crynodiad o amoniwm nitrad yn fwy nag 80% yn ôl pwysau.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

16.  Amoniwm nitrad (10/50): deunydd nad yw’n bodloni’r fanyleb a gwrteithiau nad ydynt yn bodloni’r prawf taniadLL+C

Mae hyn yn gymwys i—

(a)deunydd a wrthodwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu ac i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad, gwrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad a gwrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad y cyfeirir atynt yn Nodiadau 14 a 15, sy’n cael eu dychwelyd neu sydd wedi eu dychwelyd gan y defnyddiwr terfynol i weithgynhyrchwr, i storfa dros dro neu i safle ailbrosesu ar gyfer eu hailweithio, eu hailgylchu neu eu trin ar gyfer eu defnyddio’n ddiogel, oherwydd nad ydynt mwyach yn cydymffurfio â manylebau Nodiadau 14 a 15;

(b)gwrteithiau y cyfeirir atynt yn Nodyn 13(a), a Nodyn 14 i’r Atodlen hon nad ydynt yn cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

17.  Potasiwm nitrad (5,000/10,000)LL+C

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf peledau/gronynnau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

18.  Potasiwm nitrad (1,250/5,000)LL+C

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf grisialau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

19.  Bio-nwy wedi ei uwchraddioLL+C

At ddibenion gweithredu’r Rheoliadau hyn, caniateir dosbarthu bio-nwy wedi ei uwchraddio o dan gofnod 18 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo wedi ei brosesu yn unol â safonau cymwys ar gyfer bio-nwy puredig ac uwchraddedig gan sicrhau ansawdd sy’n cyfateb i ansawdd nwy naturiol, gan gynnwys y Methan a gynhwysir ynddo, ac sydd ag uchafswm o 1% o Ocsigen.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

20.  Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinauLL+C

Cyfrifir y maintioli o bolyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau gan ddefnyddio’r ffactorau yn Nhabl 1—

Tabl 1

Ffactorau Cyfwerthedd Gwenwyndra ar gyfer Deuocsinau a Chyfansoddion tebyg i Ddeuocsin 2005 Sefydliad Iechyd y Byd*

2,3,7,8-TCDD12,3,7,8-TCDF0.1
1,2,3,7,8-PeCDD12,3,4,7,8-PeCDF0.3
1,2,3,7,8-PeCDF0.03
1,2,3,4,7,8-HxCDD0.1
1,2,3,6,7,8-HxCDD0.11,2,3,4,7,8-HxCDF0.1
1,2,3,7,8,9-HxCDD0.11,2,3,7,8,9-HxCDF0.1
1,2,3,6,7,8-HxCDF0.1
1,2,3,4,6,7,8-HpCDD0.012,3,4,6,7,8-HxCDF0.1
OCDD0.00031,2,3,4,6,7,8-HpCDF0.01
1,2,3,4,7,8,9-HpCDF0.01
OCDF0.0003

(T = tetra, P = penta, Hx = hecsa, Hp = hepta, O = octa)

*Cyfeiriad — Van den Berg et al: “The 2005 World Health Organisation Re-evaluation of Human and Mammalian Toxic Equivalency Factors for Dioxins and Dioxin-like Compounds”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

21.  Mewn achosion pan fo’r sylwedd peryglus hwn yn dod o fewn categori Hylifau fflamadwy P5a neu Hylifau fflamadwy P5b, yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli is sydd dan reolaeth yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

22.  Pan fo Rhan 1 o’r Atodlen hon yn cwmpasu sylwedd peryglus a’i fod hefyd wedi ei restru yn Rhan 2, mae’r maintioli sydd dan reolaeth a nodir yng Ngholofn 2 o Ran 2 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

23.  Mewn perthynas â Rhan 3—LL+C

(a)pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2, y dosbarthiad sydd â’r maintioli isaf sydd dan reolaeth sy’n gymwys; a

(b)pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 a Rhan 2, y maintioli sydd dan reolaeth sydd isaf wrth gymharu’r maintioli sydd dan reolaeth o dan Ran 2 a Rhan 3 sy’n gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

24.  Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

(1)

Rheoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

(2)

Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar hepgor y prawf yn y disgrifiad o ddull A.14, gweler Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 440/2008 dyddiedig 30 Mai 2008 sy’n gosod dulliau profi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1907/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) (O.J. L 142, 31.5.2008, t. 1).

(3)

O.J. L 147, 9.6.1975, t. 40.

(4)

Mae cynnwys nitrogen o 15.7% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 45% o amoniwm nitrad.

(5)

Mae cynnwys nitrogen o 24.5% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 70% o amoniwm nitrad.

(6)

O.J. L 304, 21.11.2003, t. 1.

(7)

Mae cynnwys nitrogen o 28% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 80% o amoniwm nitrad.