RHAN 3Gweithdrefnau cydsyniad sylweddau peryglus

Cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau

6.—(1Cyn gwneud cais am gydsyniad sylweddau peryglus i’r awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r ceisydd, yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn union cyn y cais—

(a)hysbysu’r cyhoedd drwy hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd lleol sy’n cael ei ddosbarthu yng nghyffiniau’r tir y mae’r cais sy’n ymwneud ag ef wedi ei leoli, neu drwy gyfrwng priodol arall, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig, o’r materion a ganlyn—

(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu pa amodau i’w rhoi;

(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y cais o dan reoliad 5 i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw’n llai na 7 niwrnod gan ei osod a’i arddangos yn y fath fodd fel y gellir ei ddarllen yn hawdd heb fynd ar y tir.

(2Nid yw’n ofynnol i geisydd gydymffurfio â pharagraff (1)(b)—

(a)os nad oes gan y ceisydd hawl mynediad neu hawliau eraill mewn cysylltiad â thir a fyddai’n galluogi’r ceisydd i arddangos yr hysbysiad fel sy’n ofynnol; a

(b)os yw’r ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gaffael yr hawliau ond ei fod wedi methu.

(3Nid yw’r ceisydd i’w drin fel petai wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1)(b) os yw’r hysbysiad, heb unrhyw fai neu fwriad y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, cyhyd â bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei ailosod.

(4Ni chaiff yr awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai y cyflwynir ynghyd ag ef—

(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a ardystiwyd gan, neu ar ran, y ceisydd fel un sydd wedi ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(a);

(b)pan fo’n cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol, fanylion am enw’r papur newydd a dyddiad ei gyhoeddi;

(c)pan fo’n cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng arall, fanylion y cyfryngau eraill hynny; a

(d)y dystysgrif briodol ar Ffurflen 1, wedi ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd.