RHAN 4Gorfodi (hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus – apelau, effaith a chofrestr)

Apelau: materion atodolI117

1

Rhaid i berson sy’n apelio o dan adran 174(1) o’r DCGTh yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, ar yr un pryd ag y mae hysbysiad o’r apêl yn cael ei roi i Weinidogion Cymru neu ei anfon atynt o dan adran 174(3) o’r DCGTh, gyflwyno copi o’r hysbysiad o apêl a’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno ynghyd ag ef sy’n ofynnol gan adran 174(4) o’r Ddeddf honno i’r awdurdod sylweddau peryglus a ddyroddodd yr hysbysiad.

2

Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r hysbysiad o apêl yn cael ei gyflwyno iddo, gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r apelydd ddatganiad—

a

sy’n nodi cyflwyniadau’r awdurdod mewn perthynas â phob sail dros apelio; a

b

sy’n nodi pa un ai y byddai’r awdurdod yn barod i roi cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faintioli o’r sylwedd peryglus y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef ar, uwchben neu oddi tan y tir ac os felly, fanylion yr amodau, os oes rhai, y dymunent eu gosod ar y cydsyniad.

3

Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau hwnnw, roi hysbysiad o’r apêl i feddiannwyr eiddo yng nghyffiniau’r safle y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef.