xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1591 (Cy. 191) (C. 92)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015

Gwnaed

16:55 ar 5 Awst 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 60(2) a (3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Awst 2015

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 i rym ar 6 Awst 2015—

(a)adran 2(1) (sefydlu Cymwysterau Cymru);

(b)adran 2(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 a pharagraff 37 o Atodlen 1;

(c)Rhan 1 o Atodlen 1 (sefydlu Cymwysterau Cymru); a

(d)paragraff 37 (yn Rhan 2) o Atodlen 1 (diwygiad canlyniadol i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2)).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 6 Awst 2015 ddarpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) a restrir yn erthygl 2 yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr erthygl honno.

Mae adran 2(1) o’r Ddeddf yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol ac mae adran 2(2) yn cyflwyno Atodlen 1. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud â sefydlu Cymwysterau Cymru, gan gynnwys ynghylch ei aelodaeth. Mae paragraff 37 o Atodlen 1 yn diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 er mwyn ychwanegu Cymwysterau Cymru at y rhestr o gyrff a swyddi cyhoeddus yn Rhan 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.