xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gallu i ddiwallu angen

6.  At ddibenion rheoliadau 3(c), 4(1)(c) a 5(c), mae person sy’n gallu diwallu’r angen, ar ei ben ei hun neu gyda chymorth eraill i’w ystyried yn un nad yw’n gallu diwallu’r angen os byddai gwneud hynny

(a)yn achosi poen, gorbryder neu drallod sylweddol i’r person hwnnw;

(b)yn peryglu neu’n debyg o beryglu iechyd neu ddiogelwch y person hwnnw neu berson arall;

(c)yn cymryd amser sylweddol hwy i’r person hwnnw na’r hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel rheol.