Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r prawf y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso i ddyfarnu p’un a oes gan unigolyn y mae ei anghenion wedi eu nodi mewn asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) hawlogaeth ai peidio i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu gan awdurdod lleol. Mae’r Rheoliadau yn nodi’r profion sydd i’w cymhwyso mewn perthynas ag oedolion, â phlant ac â gofalwyr.

Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn nodi’r meini prawf cymhwystra ar gyfer oedolion, ar gyfer plant ac ar gyfer gofalwyr yn ôl eu trefn. Ym mhob achos mae’r meini prawf yn cynnwys gofyniad ynghylch sut y mae’r angen o dan sylw yn codi, ynghylch a yw’n ymwneud ag un o’r ffactorau sy’n gysylltiedig â llesiant, ynghylch p’un a all yr angen gael ei ddiwallu ai peidio gan y person ar ei ben ei hun neu gyda chymorth, ac ynghylch a yw person yn debyg o sicrhau canlyniadau personol ai peidio heb ddarpariaeth gofal a chymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 6 yn darparu, at ddibenion barnu p’un a yw person yn gallu diwallu un o’i anghenion ai peidio, p’un a yw hynny gyda chymorth neu hebddo, y dylid ystyried nad yw’n gallu gwneud hynny hyd yn oed os yw’n gallu diwallu’r angen mewn gwirionedd ond dim ond drwy ddioddef poen, gorbryder neu drallod sylweddol, drwy beryglu ei hun neu berson arall, neu drwy gymryd amser sylweddol hwy na’r hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel rheol.

Pan fo anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra hyn, mae adran 32 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny ac a ddylai osod ffi yn unol â Rhan 5 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources