xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1578 (Cy. 187)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Gwnaed

24 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 32(3), (4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 33 o’r Ddeddf honno, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno.