(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod (OJ Rhif L 335, 14.12.13, t 19) (“Rheoliad y Comisiwn”).
Mae rheoliad 3 yn nodi mai pob awdurdod bwyd yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn. Mae rheoliad 4 yn gwneud awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gadw cofnodion am 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae pob cofnod yn ymwneud â hi.
Mae rheoliad 6 a’r Atodlen yn cymhwyso rhai darpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad y Comisiwn neu â rheoliad 5. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn ei gwneud yn drosedd i beidio â chydymffurfio â hysbysiad gwella.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.