2015 Rhif 1519 (Cy. 177)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)1, 16(1)2, 17(1)3, 26(1), (2) a (3)4, 31(1) a 48(1)5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906, a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi7.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd8 ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin9.

Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod10 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno11.

Cafwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd12, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.