Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/684 (Cy. 74)) (“Rheoliadau 2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”). Mae pob un o’r tanwyddau a restrwyd yn yr Atodlen i Rheoliadau 2014 yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig. Mae naw o danwyddau ychwanegol wedi eu hawdurdodi am y tro cyntaf.
Mae adran 20 o Ddeddf 1993 yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.