Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/694) (Cy.75).
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21 o Ddeddf 1993, esemptio, o ran Cymru, ddosbarthau penodedig o leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os ydynt wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn esemptio’r lleoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr ail golofn a’r drydedd o’r Atodlen honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.