2015 Rhif 1507 (Cy. 174)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4)1, 16(1)(a) ac (e)2, 17(1)3, 26(1) a (3)4 a 48(1)5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru6, wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)7 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cafwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd8, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.