Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1).
(1)
2000 p. 14; diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14), adran 95 a pharagraff 4 o Atodlen 5.