NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfuniad o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau penodedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth er mwyn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 14 o’r Ddeddf. Mae’r swyddogaethau hyn yn ymwneud â’r asesiad o anghenion pobl mewn ardal awdurdod lleol, gan gynnwys anghenion gofalwyr (asesiad y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel “asesiad poblogaeth”). Rhaid i asesiad poblogaeth gynnwys hefyd asesiad o ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion y bobl yn ardal yr awdurdod lleol ac ystod a lefel y gwasanaethau ataliol y mae eu hangen.

Mae rheoliad 2 yn pennu’r cyrff (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff partneriaeth”) y mae’n rhaid iddynt ymrwymo i drefniant partneriaeth at y diben hwn. Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdod neu’r awdurdodau lleol yn ardal pob Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth, fel y’i disgrifir yn yr Atodlen.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r swyddogaethau sydd i’w cyflawni’n unol â’r trefniadau partneriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y swyddogaethau a ddisgrifir yn adran 14 o’r Ddeddf ac unrhyw swyddogaeth a ddisgrifir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1) (gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015).

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf y trefniant partneriaeth a dull gweithredu’r trefniant partneriaeth, gan gynnwys penodi corff cydgysylltu arweiniol.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y cyrff partneriaeth.

Mae rheoliad 7 yn galluogi’r corff cydgysylltu arweiniol i gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi a’r adroddiadau asesiad poblogaeth sydd wedi eu llunio ar gyfer ardaloedd pob un o’r awdurdodau lleol yn y trefniant partneriaeth.