xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1495 (Cy. 167)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015

Gwnaed

8 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 166(1), (3) a (4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno a’i gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;

“y cyrff partneriaeth” (“the partnership bodies”) yw’r cyrff hynny y mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymrwymo i drefniadau partneriaeth;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “swyddogaethau penodedig” (“specified functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 3;

ystyr “trefniant partneriaeth” (“partnership arrangement”) yw’r trefniant partneriaeth y mae’n ofynnol ei wneud gan reoliad 2.

Trefniadau partneriaeth

2.  Rhaid i drefniant partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael ei wneud gan y Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen a’r awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol cyfatebol a restrir yn ail golofn y tabl hwnnw.

Swyddogaethau penodedig

3.  Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni’n unol â’r trefniadau partneriaeth yw swyddogaethau’r cyrff partneriaeth a roddir iddynt gan neu o dan adran 14(1) o’r Ddeddf.

Y ffurf ar drefniadau partneriaeth

4.  Rhaid i’r cyrff partneriaeth sefydlu cydbwyllgor i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r trefniant partneriaeth.

Gweithredu trefniadau partneriaeth

5.—(1Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob trefniant partneriaeth benodi un o’r cyrff i fod yn gorff cydgysylltu arweiniol.

(2Mae’r corff cydgysylltu arweiniol i fod yn gyfrifol am gydgysylltu’r broses o gyflawni’r asesiadau poblogaeth ar gyfer yr ardaloedd awdurdod lleol y mae’r trefniant partneriaeth yn eu cwmpasu.

Rhannu gwybodaeth

6.  Caiff y cyrff partneriaeth rannu gwybodaeth â’i gilydd at ddibenion cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniant partneriaeth.

Dirprwyo swyddogaethau

7.  Caiff y corff cydgysylltu arweiniol gyflawni’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i bob un o’r awdurdodau lleol yn y trefniant partneriaeth gan reoliad 6(4) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015(2).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Gorffennaf 2015

Rheoliad 2

ATODLENTrefniadau partneriaeth penodedig

Tabl

Trefniadau partneriaeth

Bwrdd Iechyd LleolAwdurdod Lleol

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfuniad o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau penodedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth er mwyn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 14 o’r Ddeddf. Mae’r swyddogaethau hyn yn ymwneud â’r asesiad o anghenion pobl mewn ardal awdurdod lleol, gan gynnwys anghenion gofalwyr (asesiad y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel “asesiad poblogaeth”). Rhaid i asesiad poblogaeth gynnwys hefyd asesiad o ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion y bobl yn ardal yr awdurdod lleol ac ystod a lefel y gwasanaethau ataliol y mae eu hangen.

Mae rheoliad 2 yn pennu’r cyrff (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff partneriaeth”) y mae’n rhaid iddynt ymrwymo i drefniant partneriaeth at y diben hwn. Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdod neu’r awdurdodau lleol yn ardal pob Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i drefniadau partneriaeth, fel y’i disgrifir yn yr Atodlen.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r swyddogaethau sydd i’w cyflawni’n unol â’r trefniadau partneriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y swyddogaethau a ddisgrifir yn adran 14 o’r Ddeddf ac unrhyw swyddogaeth a ddisgrifir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1) (gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015).

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf y trefniant partneriaeth a dull gweithredu’r trefniant partneriaeth, gan gynnwys penodi corff cydgysylltu arweiniol.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y cyrff partneriaeth.

Mae rheoliad 7 yn galluogi’r corff cydgysylltu arweiniol i gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi a’r adroddiadau asesiad poblogaeth sydd wedi eu llunio ar gyfer ardaloedd pob un o’r awdurdodau lleol yn y trefniant partneriaeth.

(2)

OS 2015/1367 (Cy. 135). Mae rheoliad 6(4) o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o’r adroddiad asesiad poblogaeth sydd wedi ei lunio ar gyfer ei ardal.