2015 Rhif 1494 (Cy. 166)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 195(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anghydfod” (“dispute”) yw anghydfod—
- a
rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf,
- b
rhwng awdurdod lleol anfon ac awdurdod lleol derbyn o dan adran 56 o’r Ddeddf (hygludedd gofal a chymorth) ynghylch cymhwyso’r adran honno, neu
- c
rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso adran 189 o’r Ddeddf (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol);
ystyr “yr awdurdod arweiniol” (“the lead authority”), mewn perthynas ag anghydfod, yw’r awdurdod lleol sydd (o ganlyniad i reoliad 2 neu fel arall)—
- a
yn diwallu anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, neu ofalwr dros y person hwnnw, ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi, neu
- b
os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ar y dyddiad hwnnw, o dan ofyniad i wneud hynny gan reoliad 2(3);
- a
ystyr “atgyfeirir” ac “yn cael ei atgyfeirio” (“referred”) yw atgyfeirio i gael dyfarniad arno gan y person priodol, ac mae “atgyfeirio” (“refer”) ac “atgyfeiriad” (“referral”) i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “y person priodol” (“the appropriate person”) yw’r person y mae anghydfod i’w ddyfarnu arno ganddo yn unol ag adran 195(1) o’r Ddeddf.
4
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y mae anghydfod yn codi yn gyfeiriadau at y dyddiad cyntaf yr anfonir cyfathrebiad ysgrifenedig arno gan un o’r awdurdodau lleol (“yr awdurdod cyntaf”) at un arall o’r awdurdodau lleol (“yr ail awdurdod”) sydd (yn ôl y digwydd)—
a
yn honni nad yw’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, ym marn yr awdurdod cyntaf, yn preswylio fel arfer yn ei ardal at ddibenion y Ddeddf, neu fod y person yn preswylio fel arfer yn ardal yr ail awdurdod at y dibenion hynny,
b
yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 56 o’r Ddeddf, neu
c
yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 189 o’r Ddeddf.
5
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at “yr awdurdodau” yn gyfeiriad at yr awdurdodau sy’n bartïon i anghydfod ac mae’n cynnwys (pan fo’n wahanol) gyfeiriad at yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod hwnnw.
Cyfrifoldeb am ddiwallu anghenion tra bo anghydfod heb ei ddatrys2
1
Ni chaiff yr awdurdodau ganiatáu i fodolaeth yr anghydfod atal diwallu, oedi cyn diwallu, ymyrryd â diwallu, neu effeithio’n andwyol fel arall ar ddiwallu, anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef neu anghenion gofalwr y person hwnnw.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n diwallu anghenion y person neu’r gofalwr ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi barhau i ddiwallu’r anghenion hynny hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys.
3
Os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion ar y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi—
a
rhaid i’r awdurdod lleol y mae’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ei ardal, neu
b
os nad yw’r person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ardal unrhyw awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw’n bresennol yn ei ardal
gyflawni, hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys, y dyletswyddau o dan y Ddeddf mewn cysylltiad â’r person ac unrhyw ofalwr y person hwnnw fel petai’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
4
Os yw’r ddyletswydd o dan baragraff (3) i’w chyflawni gan awdurdod lleol (“A”) nad yw’n un o’r awdurdodau sydd eisoes yn barti i’r anghydfod, rhaid i’r awdurdodau hynny, yn ddi-oed, dynnu sylw A at—
a
dyletswydd A o dan y paragraff hwnnw, a
b
statws A fel yr awdurdod arweiniol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
5
Nid yw A o dan y dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn tan y dyddiad y daw’n ymwybodol, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo fod wedi bod yn ymwybodol, o’i statws fel yr awdurdod arweiniol.
6
Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â chymhwyso adran 56 (hygludedd gofal a chymorth), rhaid i’r awdurdodau gyflawni’r dyletswyddau o dan yr adran honno er gwaethaf bodolaeth yr anghydfod.
Y camau sydd i’w cymryd cyn atgyfeirio anghydfod3
1
Rhaid i’r awdurdodau, cyn atgyfeirio’r anghydfod, gymryd y camau a bennir yn y rheoliad hwn.
2
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y mae’r anghydfod yn codi—
a
rhaid i’r awdurdod arweiniol geisio canfod yr holl awdurdodau eraill sydd â rhan yn yr anghydfod a chydgysylltu trafodaethau rhwng yr awdurdodau hynny mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod, a
b
rhaid i bob un o’r awdurdodau enwebu unigolyn a fydd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt o fewn yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â’r anghydfod, a rhoi manylion cyswllt yr unigolyn hwnnw i’r awdurdodau eraill.
3
Rhaid i’r awdurdod arweiniol—
a
cydgysylltu’r modd y mae’r awdurdodau yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn,
b
cymryd camau i sicrhau oddi wrth yr awdurdodau eraill wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod,
c
datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw awdurdod arall, a
d
datgelu i’r awdurdodau eraill unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod arweiniol ei hun yn ei dal ac a allai helpu i ddatrys yr anghydfod.
4
Rhaid i’r awdurdodau—
a
cymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a
b
cydweithredu â’i gilydd wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn.
5
Rhaid i bob un o’r awdurdodau—
a
cynnal deialog adeiladol gyda’r awdurdodau eraill, gyda golwg ar beri i’r anghydfod gael ei ddatrys yn gyflym,
b
cydymffurfio, yn ddi-oed, ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth berthnasol a wneir gan yr awdurdod arweiniol, ac
c
hysbysu’r awdurdodau eraill yn rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.
6
Rhaid i’r awdurdod arweiniol ddarparu i’r personau y mae paragraff (7) yn gymwys iddynt unrhyw wybodaeth y mae’n ymddangos iddo ei bod yn briodol am gynnydd i ddatrys yr anghydfod.
7
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r personau canlynol—
a
y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,
b
gofalwr y person hwnnw (os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr), ac
c
person sy’n cynrychioli’r person neu’r gofalwr.
8
Os nad yw’r awdurdodau yn gallu datrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain o fewn pedwar mis i’r dyddiad y cododd yr anghydfod, rhaid i’r awdurdod arweiniol ei atgyfeirio at y person priodol.
Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch preswylfa arferol neu hygludedd gofal a chymorth4
1
Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—
a
llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod,
b
datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ac
c
copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.
2
Yr wybodaeth benodedig yw—
a
esboniad o natur yr anghydfod,
b
cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,
c
y manylion am anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef (“y person perthnasol”) o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,
d
os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,
e
datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallu’r anghenion hynny ers dechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu a’r darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,
f
y manylion am fan preswylio’r person perthnasol, ac am unrhyw fannau preswylio blaenorol sy’n berthnasol i’r anghydfod,
g
mewn achos pan fo galluedd y person perthnasol i benderfynu ble i fyw yn berthnasol i’r anghydfod, naill ai—
i
datganiad bod yr awdurdodau’n cytuno bod gan, neu nad oes gan, y person alluedd o’r fath, neu
ii
gwybodaeth y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r cwestiwn ynghylch a oes gan, neu a nad oes gan, y person alluedd o’r fath,
h
datganiad ynghylch unrhyw gamau eraill a gymerwyd gan yr awdurdodau mewn perthynas â’r person perthnasol neu ei ofalwr, ac a all fod yn berthnasol i’r anghydfod,
i
y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a
j
unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.
3
Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.
4
Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—
a
anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a
b
darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.
5
Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.
6
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i achos y mae rheoliad 5 neu 6 yn gymwys iddo.
Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch cydweithredu o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)5
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(a) neu (b) o’r Ddeddf (dyletswydd i gydweithredu).
2
Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—
a
llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,
b
datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac
c
copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.
3
Yr wybodaeth benodedig yw—
a
esboniad o natur yr anghydfod,
b
cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,
c
y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a
d
unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.
4
Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.
5
Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—
a
anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a
b
darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.
6
Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.
Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch costau a dynnwyd o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)6
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(c) o’r Ddeddf (adennill costau).
2
Rhaid i’r atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol—
a
llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas â’r anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,
b
datganiad o’r ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un o’r awdurdodau sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac
c
copïau o’r holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau sy’n ymwneud â’r anghydfod.
3
Yr wybodaeth benodedig yw—
a
esboniad o natur yr anghydfod,
b
cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirio’r anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,
c
y manylion am anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef (“y person perthnasol”) o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,
d
os yw’r anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef,
e
datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallu’r anghenion hynny ers dechrau’r cyfnod y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu a’r darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,
f
gwybodaeth am y costau y ceisir eu hadennill, gan gynnwys dadansoddiad o’r costau hynny,
g
y manylion am y camau y mae’r awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, ac
h
unrhyw wybodaeth arall y mae’n ymddangos i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ei bod yn berthnasol i’r dyfarniad ar yr anghydfod.
4
Rhaid i’r awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas â’r anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.
5
Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo—
a
anfon copi o’r dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a
b
darparu tystiolaeth i’r person priodol ei fod wedi gwneud hynny.
6
Os yw’r person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid i’r awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.
Adolygu dyfarniadau7
1
Caiff awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygu’r dyfarniad.
2
Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud o fewn tri mis i ddyddiad y dyfarniad.
3
Caniateir i adolygiad gael ei gynnal gan Weinidogion Cymru (p’un ai mewn ymateb i gais neu fel arall).
4
Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r dyfarniad neu roi dyfarniad gwahanol yn ei le.
Dyfarniadau a amnewidiwyd8
1
Pan fo—
a
adolygiad o ddyfarniad wedi ei gynnal yn unol â rheoliad 7 a bod dyfarniad gwahanol wedi ei roi yn ei le,
b
awdurdod lleol (“A”), o ganlyniad i’r dyfarniad cyntaf, wedi talu swm i awdurdod lleol arall (“B”), ac
c
effaith yr ail ddyfarniad yn golygu nad oedd yn ofynnol i rywfaint neu’r cyfan o’r swm a dalwyd gan A i B gael ei dalu,
rhaid i B ad-dalu i A y swm nad oedd yn ofynnol iddo gael ei dalu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)