Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015.

2

Mae’r Rheoliadau’n gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar y dyddiadau canlynol—

a

y rheoliad hwn, rheoliadau 2, 3, 4(a) a’r Atodlen ar 31 Gorffennaf 2015; a

b

rheoliad 4(b) ar 31 Rhagfyr 2015.

4

Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093.