2015 Rhif 1486 (Cy. 165)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 19841 a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, ac wedi ymgynghori, yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf honno, â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r buddiannau dan sylw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: