xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd.

Terfynau ffioedd yw’r uchafswm y bydd rhaid i berson cymhwysol ei dalu i sefydliad am ymgymryd â chwrs cymhwysol.

Mae adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi disgrifiad o gyrsiau cymhwysol, ac mae adran 5(5)(b) yn eu galluogi i ragnodi dosbarthiadau o bersonau yn bersonau cymhwysol.

Y cyrsiau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 3 yw’r cyrsiau hynny sy’n gallu cael eu dynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 pan fo blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae dynodi o dan y rheoliadau hynny yn golygu y caiff myfyrwyr wneud cais am gymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs. Mae eithriad ar gyfer “cyrsiau penben” pan ddechreuodd y cwrs gwreiddiol cyn 1 Medi 2012.

Y personau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 4 yw’r personau hynny sydd, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd berthnasol, yn dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio’r personau hynny nad ydynt yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 oherwydd paragraffau penodol yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny, neu y mae ganddynt eisoes radd anrhydedd o sefydliad yn y DU.

Mae eithriad i’r myfyrwyr hynny sy’n trosglwyddo i gwrs cymhwysol o gwrs a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012. Mae eithriadau mewn cysylltiad â gradd anrhydedd flaenorol i bersonau sy’n ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, nad ydynt ond wedi cael y radd anrhydedd fel rhan o gwrs sengl y maent yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd neu pan fo’r cwrs yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth atodol.

Mae rheoliad 5 yn egluro bod y geiriau ‘a ddarperir yng Nghymru’ mewn cysylltiad ag adrannau 5 a 17 o Ddeddf 2015 yn cynnwys llunio yng Nghymru y deunyddiau sy’n angenrheidiol i gyflwyno cwrs penodol neu i ddarparu addysg, hyd yn oed os nad yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r cwrs neu sy’n darparu’r addysg, er enghraifft cwrs dysgu o bell. Mae rheoliad 6 yn darparu bod y term “cynllun o dan Ddeddf 2004” ym mharagraff 29(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2015 yn cynnwys cynllun arfaethedig y mae CCAUC yn ei gael o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 cyn 1 Awst 2015 (y dyddiad y daw’r paragraff hwnnw i rym) ond sy’n cael ei gymeradwyo gan CCAUC ar ôl y dyddiad hwnnw yn dilyn adolygiad o dan reoliadau 11 i 18 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.