2015 Rhif 1417 (Cy. 141)
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 19991 (“DARhLl 1999”)—
Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, sy’n briodol yn eu tyb hwy; a
y cyrff neu’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu tyb hwy.
Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 27(2) a (4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 20032 (“DGMA 2003”)—
y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau gwaredu gwastraff yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy;
y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n ymwneud â gweithredu safleoedd tirlenwi yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy; a
y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli unrhyw bersonau eraill yr effeithir arnynt sy’n briodol yn eu tyb hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724(“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff5 ac atal, lleihau a rheoli gwastraff6.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o DCE 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC7, y cyfeirir ato yn rheoliadau 2(2), 3(4), 4(4)(a), 5(2) a 6, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o DCE 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, adran 75(8) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19908, adran 2 o DARhLl 1999, ac Atodlen 1 iddi, ac adrannau 11, 12 a 13 o DGMA 2003.