Darpariaethau a gychwynnir ar 6 Gorffennaf 2015 ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—

(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a

(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.