xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1413 (Cy. 140) (C. 79)

Y Gymraeg

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015

Gwnaed

23 Mehefin 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Darpariaethau a gychwynnir ar 6 Gorffennaf 2015 ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—

(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a

(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Darpariaethau a gychwynnir ar 7 Gorffennaf 2015

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 7 Gorffennaf 2015—

(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);

(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a

(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

23 Mehefin 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—

(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a

(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 7 Gorffennaf 2015—

(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);

(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a

(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
adran 2(2) (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 2(3) (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 2 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 31 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 41 Mehefin 20122012/1423 (Cy. 176)
adrannau 5 a 61 Ebrill 20122012/969 (Cy. 176)
adran 7 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 8 i 101 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 111 Mehefin 20122012/1423 (Cy. 176)
adrannau 12 i 151 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 16(yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 17 i 191 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 22 (yn rhannol)17 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
adran 23(1) (yn rhannol)10 Ionawr 20122012/46 (Cy. 10)
adran 23(4)10 Ionawr 20122012/46 (Cy. 10)
adran 23 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 2417 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
adrannau 26 i 431 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 4417 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
adrannau 61 i 661 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 67 ac 681 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 10825 Mawrth 20152015/985 (Cy. 66)
adran 701 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 111 i 1191 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 120(1)30 Ebrill 20152015/1217 (Cy. 80)
adran 120(2) a (3)7 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adran 120(4) (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 120(4) (yn llawn)7 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adrannau 123 i 1257 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adran 12630 Ebrill 20152015/1217 (Cy. 80)
adrannau 127 a 1287 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adrannau 129 a 13030 Ebrill 20152015/1217 (Cy. 80)
adran 1317 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adran 13230 Ebrill 20152015/1217 (Cy. 80)
adran 1337 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
adrannau 134 i 1371 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 138 a 139 (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adrannau 138 a 139 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 140 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 141 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 142 a 1431 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 144 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 144 (yn rhannol)1 Mehefin 20122012/1423 (Cy. 176)
adran 146 (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 146 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 1471 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 148 a 1495 Chwefror 20122012/223 (Cy. 37)
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 2128 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
Atodlen 1 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 2 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 1110 Ionawr 20122012/46 (Cy. 10)
Atodlen 4 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlenni 5 i 91 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 11 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 11 (yn llawn)7 Ionawr 20142013/3140 (Cy. 313)
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 628 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
Atodlen 12 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)