Rhagolygol
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei ail-enwi yn Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r darpariaethau mewn perthynas â dehongli, dirymu Rheoliadau, arbedion a darpariaethau trosiannol.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys y darpariaethau mewn perthynas â chofrestru’r gweithlu addysg. Mae adran 9 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr o’r categorïau o berson a nodir yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2. Yn unol â hynny mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ffurf a’r dull y mae’r gofrestr i gael ei chadw, a materion eraill sy’n ymwneud â chofrestru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ail-wneud darpariaethau Rheoliadau 2010 gyda rhai mân newidiadau.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r gwaith y caniateir ei wneud mewn ysgolion gan athrawon cymwysedig a phersonau sy’n bodloni gofynion penodedig. Nodir y gofynion sydd i’w bodloni yn Atodlen 3.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth er mwyn i athrawon cymwysedig sy’n gwneud gwaith penodedig mewn ysgolion gael eu cofrestru gyda’r Cyngor (rheoliad 18).
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu na chaniateir i bersonau, oni bai eu bod yn bodloni unrhyw un o’r amodau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn, ddarparu addysg bellach mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai eu bod wedi cofrestru â’r Cyngor.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Mae adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau disgyblu i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau a gofrestrwyd ar y gofrestr (“personau cofrestredig”).
Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer sefydlu un neu fwy o Bwyllgorau Ymchwilio, a fydd yn ymchwilio i bersonau cofrestredig ac yn penderfynu pa un ai i ddwyn achos yn eu herbyn pan honnir bod yr athro neu’r athrawes yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu wedi ei gollfarnu neu ei chollfarnu (ar unrhyw adeg) am drosedd berthnasol; neu ei bod yn ymddangos iddynt y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny neu wedi ei gollfarnu am hynny. Mae rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â dirprwyo swyddogaethau’r pwyllgorau hynny i gyflogeion y Cyngor.
Mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer sefydlu Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer, a fydd yn clywed achosion disgyblu ynghylch ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throseddau perthnasol ac a fydd â’r pŵer i wneud gorchmynion disgyblu (gorchmynion gwahardd, gorchmynion atal dros dro, gorchmynion cofrestru amodol neu geryddon); a chlywed ceisiadau mewn perthynas â’r gorchmynion hynny ac eithrio ceryddon.
Mae adran 33 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â chynnal cofnodion gan y Cyngor. Yn unol â hynny, mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ar gyfer y personau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn. Nodir yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y cofnodion hynny yn Rhan 3 o Atodlen 4 o’r Rheoliadau hyn ac mae’n debyg i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014.
Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon sydd wedi eu cofrestru â’r Cyngor ac asiantaethau cyflenwi hysbysu’r Cyngor am achosion o gamymddygiad ac anghymhwysedd. Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi wedi ei nodi yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, ddarparu copïau o wybodaeth a gedwir amdanynt i bersonau cofrestredig a phersonau eraill y cynhelir gwybodaeth amdanynt. Mae Rhan 8 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor roi gwybodaeth i gyflogwyr a chyrff eraill pan fo’n derbyn cais.
Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.