2015 Rhif 140 (Cy. 8)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 10(2)(b), 13, 14, 15, 25, 26(6), 28, 33, 35(4), 36(2), 37(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141, a pharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: