2015 Rhif 1367 (Cy. 135)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016 ac yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5;
ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;
ystyr “y cyrff cyfrifol” (“the responsible bodies”) yw’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal asesiad poblogaeth;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu ragor o’r dibenion yn adran 15(2) o’r Ddeddf.
Sicrhau canlyniadau llesiant2
Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol roi sylw i’r canlyniadau a’r mesurau a bennir yn y datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o’r Ddeddf (dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau).
Ymgysylltu â dinasyddion3
1
Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol gymryd camu rhesymol i ymgysylltu â’r canlynol—
a
pobl yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth2,
b
pobl yn ardal yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth, ac
c
gofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am gymorth.
2
Rhaid i’r cyrff cyfrifol sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu sy’n ofynnol gan baragraff (1).
Ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector4
1
Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol ymgysylltu ag unrhyw sefydliad sector preifat neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn, darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol3 i’r boblogaeth leol.
2
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.
Adroddiad asesiad poblogaeth5
1
Rhaid i’r cyrff cyfrifol lunio ar y cyd adroddiad ar ganlyniad yr asesiad poblogaeth sydd wedi ei gynnal ganddynt.
Cyhoeddi adroddiad asesiad poblogaeth6
1
Rhaid llunio’r adroddiad asesiad poblogaeth cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.
2
Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.
3
Rhaid i bob Bwrdd Iechyd lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiadau asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd o fewn ei ardal.
4
Rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o’r adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.
Adolygu adroddiadau asesiad poblogaeth7
Rhaid i’r cyrff cyfrifol gydadolygu’n gyson yr adroddiad asesiad poblogaeth a chaniateir iddynt ddyroddi adendwm i’r adroddiad pryd bynnag y byddant o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)