2015 Rhif 1335 (Cy. 126)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 54(5), 54(6), 55 a 126(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anghenion cymwys” (“eligible needs”) mewn perthynas â pherson yw’r anghenion hynny y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol eu diwallu o dan adran 35, 37, 40 neu 42 o’r Ddeddf;
ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson yn unol ag asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun cymorth” (“support plan”) yw cynllun y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei lunio a’i gynnal o dan adran 54(2) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei lunio a’i gynnal o dan adran 54(1) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Hyfforddiant a sgiliau2
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n gyfrifol am lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth—
a
yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i wneud hynny, a
b
wedi cael hyfforddiant priodol.
Cynnwys cynlluniau3
1
Rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gynnwys disgrifiad o’r canlynol—
a
anghenion cymwys y person,
b
y canlyniadau personol,
c
y camau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol a’r camau sydd i’w cymryd gan bersonau eraill i helpu’r person sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys,
d
y trefniadau ar gyfer monitro i ba raddau y mae’r canlyniadau personol wedi eu sicrhau, ac
e
y trefniadau ar gyfer adolygu’r cynllun.
2
Pan fo rhai neu bob un o anghenion y person i’w diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol, rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gynnwys hefyd ddisgrifiad o’r canlynol—
a
yr anghenion cymwys sydd i’w diwallu drwy daliadau uniongyrchol2, a
b
swm ac amlder y taliadau uniongyrchol.
3
Pan fo ymholiadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 126(1) o’r Ddeddf (oedolion sy’n wynebu risg), rhaid i’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn sy’n destun yr ymholiadau hynny gynnwys cofnod o ganlyniad yr ymholiadau.
Adolygu cynlluniau4
1
Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’n ymddangos iddo nad yw’r cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
2
Pan fo’r cynllun yn cynnwys manylion taliadau uniongyrchol yn unol â rheoliad 3(2), rhaid i’r cynllun gael ei adolygu yr un pryd ag unrhyw adolygiad o’r taliadau uniongyrchol yn unol â rheoliadau o dan adran 53(1).
Ceisiadau am adolygu cynlluniau5
1
Caiff y personau canlynol ofyn am adolygiad o gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth (yn ôl y digwydd)—
a
pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn)—
i
yr oedolyn, a
ii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn;
b
pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn)—
i
y plentyn,
ii
unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; a
iii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni nad yw’r cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
3
Caiff yr awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni bod y cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
4
Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 7 ac 8, mae person wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran oedolyn neu blentyn—
a
os yw’r oedolyn neu’r plentyn wedi gofyn i’r person weithredu ar ei ran, neu
b
os nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd a bod y person wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 20053 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch sut y mae anghenion y person i’w diwallu.
Y camau i’w cymryd yn dilyn adolygiad6
1
Yn dilyn yr adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried p’un a ddylid cadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun gofal a chymorth neu’r cynllun cymorth (yn ôl y digwydd).
2
Wrth benderfynu p’un a ddylid cadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw penodol i’r canlynol—
a
unrhyw newidiadau i’r canlyniadau personol neu amgylchiadau’r person,
b
unrhyw newidiadau i anghenion cymwys y person,
c
a yw’r camau sydd wedi eu cymryd gan yr awdurdod neu bersonau eraill yn helpu’r person i sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys, a
d
a oes ffyrdd eraill y gall yr awdurdod neu bersonau eraill helpu’r person i sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys.
3
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod gofnodi’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.
4
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lunio cynllun diwygiedig.
5
Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lunio datganiad cau.
6
Mae datganiad cau yn ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
y rhesymau dros gau’r cynllun,
b
gwerthusiad ynghylch i ba raddau y cafodd y canlyniadau personol eu sicrhau, ac
c
pan fo’r awdurdod lleol yn dal yn fodlon bod gan y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef anghenion am ofal a chymorth, cadarnhad bod yr awdurdod wedi ei fodloni y gall anghenion y person gael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gwasanaethau atal neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned.
Copïau o gynlluniau gofal a chymorth etc.7
1
Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
2
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
3
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cofnod o’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
4
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r datganiad cau i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
5
At ddibenion paragraffau (1) i (4), y personau yw—
a
os yw’r cynllun gofal a chymorth wedi ei lunio ar gyfer oedolyn—
i
yr oedolyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
ii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn, a
iii
pan na fo gan yr oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf yr oedolyn ym marn yr awdurdod lleol;
b
os yw’r cynllun gofal a chymorth wedi ei lunio ar gyfer plentyn—
i
y plentyn y cafodd y cynllun ei lunio ar ei gyfer,
ii
unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y plentyn,
iii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn, a
iv
pan na fo gan y plentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y plentyn ym marn yr awdurdod lleol.
Copïau o gynlluniau cymorth etc.8
1
Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun cymorth i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
2
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
3
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cofnod o’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
4
Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r datganiad cau i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
5
At ddibenion paragraffau (1) i (4), y personau yw—
a
os yw’r cynllun cymorth wedi ei lunio ar gyfer gofalwr sy’n oedolyn—
i
y gofalwr sy’n oedolyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
ii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y gofalwr sy’n oedolyn, a
iii
pan na fo gan y gofalwr sy’n oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y gofalwr sy’n oedolyn ym marn yr awdurdod lleol;
b
os yw’r cynllun cymorth wedi ei lunio ar gyfer gofalwr sy’n blentyn—
i
y gofalwr sy’n blentyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
ii
unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr sy’n blentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y gofalwr sy’n blentyn,
iii
unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y gofalwr sy’n blentyn, a
iv
pan na fo gan y gofalwr sy’n blentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y gofalwr sy’n blentyn ym marn yr awdurdod lleol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)