xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3. Yn erthygl 2(1)—
(a)ar ôl y diffiniad o “cais AEA” mewnosoder—
“ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—
caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,
at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—
unrhyw gais arall am newid defnydd,
cais i godi tŷ annedd, neu
cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;”;
(b)ar ôl y diffiniad o “cais deiliad tŷ” mewnosoder—
“ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;”.