Diwygiadau i’r Atodlenni11.

(1)

Yn y Cydnabod Cais yn Atodlen 1, hepgorer y geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..”.

(2)

Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder Atodlen 1A a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Yn Atodlen 2—

(a)

yn yr Hysbysiad o Dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—

“Os bydd apêl yn cael ei gwneud yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a bod yr apêl wedyn yn digwydd drwy y weithdrefn ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ynglŷn â’r cais hwn yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach. Dylai unrhyw berchennog neu denant sy’n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny erbyn y dyddiad ym mharagraff (dd) uchod.”

(b)

yn yr Hysbysiad o Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—

“Os ymdrinnir ag apêl gan y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S.……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio lleol ynglŷn â’r cais yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach mewn perthynas â’r apêl.”