NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf hysbysiadau penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”) sy’n ymwneud â’r hawl i brynu, a’r manylion sydd i’w cynnwys yn yr hysbysiadau hynny.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio gan denant diogel sy’n hawlio arfer yr hawl i brynu yn unol ag adran 122 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio gan y landlord sydd wedi derbyn hysbysiad gan y tenant yn hawlio arfer yr hawl i brynu. Mae’r hysbysiad, a roddir o dan adran 124 o’r Ddeddf, naill ai’n derbyn neu’n gwadu hawl y tenant i brynu.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 3 yn rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio gan denant sydd wedi cyflwyno’r hysbysiad yn hawlio arfer yr hawl i brynu pan fo oedi wedi bod fel y’i disgrifir yn adran 153A(1) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 4 yn rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio gan landlord y cyflwynwyd hysbysiad oedi cychwynnol iddo o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 153A(3)(b) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 5 yn rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio gan denant o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 153A(5) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r manylion sydd i’w cynnwys yn unrhyw un o’r hysbysiadau uchod, ac mae rheoliad 8 yn dirymu’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 6, y mae’r Rheoliadau hyn yn eu disodli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.