7.—(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996(1).
(3) Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.