(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 27 Ebrill 2015, Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adran 75(3) (aelwydydd sy’n ddigartref yn fwriadol ac sydd â phlant) ac, yn rhannol, adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb). Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed o ganlyniad i gychwyn Rhan 2.
Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 yn cychwyn, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn eisoes, Ran 2 (digartrefedd) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r eithriadau isod. Mae adran 100 o’r Ddeddf yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol ynglŷn â Rhan 2 o’r Ddeddf. Mae’r diwygiadau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael yr effaith o gyfyngu cymhwyso Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 at Loegr.
Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn adran 78 o’r Ddeddf, ond dim ond at ddibenion caniatáu i awdurdodau tai lleol benderfynu rhoi sylw i ddigartrefedd bwriadol mewn perthynas â chategorïau penodedig o geiswyr. Mae’n caniatáu hefyd i hysbysiadau penderfyniadau gael eu cyhoeddi.
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 78 i rym at bob diben sy’n weddill ar 1 Gorffennaf 2015.
Mae erthygl 5 yn arbed Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Mae hefyd yn addasu’r Rheoliadau fel eu bod yn gweithredu fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 6 yn addasu adran 75(2)(d) o’r Ddeddf i hepgor y cyfeiriad at benderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb, nes i adran 78 ddod i rym yn llawn ar 1 Gorffennaf 2015.
Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â pherson sydd wedi gwneud cais cyn 27 Ebrill 2015 am gymorth o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996.
Mae erthygl 8 yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, er mwyn cyfeirio at swyddogaethau digartrefedd yr awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf.