xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Ebrill 2015

2.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2015

3.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.

Darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed

4.  Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.

Darpariaeth arbed mewn perthynas â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

5.—(1Er gwaethaf cychwyn adran 61 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(1) yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad wedyn) fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.

(2I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a

(b)yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.

Addasiad darfodol i’r Ddeddf

6.—(1Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.

(2Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.

(3Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau am lety neu gynhorthwy sydd yn yr arfaeth

7.—(1Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.

(2Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996(2).

(3Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.

Addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970

8.—(1Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(3)fel y mae’n gymwys i Gymru, gydag effaith o 27 Ebrill 2015.

(2Hyd nes i Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4) ddod i rym, mae Atodlen 1 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 i’w darllen o ran ei chymhwyso at Gymru—

(a)fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;

(b)fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn lle’r eitem honno:

Housing (Wales) Act 2014

Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section.

Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2015