Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Ebrill 20152.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 20153.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.
Darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed4.
Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.
Darpariaeth arbed mewn perthynas â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 20145.
(1)
(2)
I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
(a)
yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a
(b)
yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.
Addasiad darfodol i’r Ddeddf6.
(1)
Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2)
Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.
(3)
Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau am lety neu gynhorthwy sydd yn yr arfaeth7.
(1)
Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2)
(3)
Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.
Addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19708.
(1)
(2)
(a)
fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;
(b)
“Housing (Wales) Act 2014
Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section.
Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.”