Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015 a daw i rym ar 1 Mehefin 2015.
Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion2.
Y cyfnod amser3.
Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 2002. Mae erthygl 2 yn darparu nad yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Bydd hyn yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud newidiadau i ba bryd y mae sesiynau’r ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, gan gynnwys pa bryd y mae’r diwrnod ysgol yn dechrau ac yn dod i ben o 1 Mehefin 2015 ymlaen, yn hytrach nag ar ddechrau tymor ysgol neu flwyddyn ysgol. Mae erthygl 3 yn pennu bod y Gorchymyn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.